Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2014 i’w hateb ar 14 Ionawr 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y difrod a achoswyd i amddiffynfeydd gan lifogydd diweddar?OAQ(4)1418(FM)

 

2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith diwygio lles ar dlodi yn Nhorfaen? OAQ(4)1424(HSS)

 

3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc yn Nyffryn Clwyd ar gyfer 2014? OAQ(4)1411(FM)

 

4. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gofio rhan Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf?OAQ(4)1426(FM)

 

5. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dderbyn cleifion i ysbytai yn Nwyrain De Cymru dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd? OAQ(4)1422(FM)

 

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglenni cyfalaf awdurdodau lleol? OAQ(4)1419(FM)W

 

7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi a hybu chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)1410(FM)

 

8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau yng Nghymru?OAQ(4)1419(FM)

 

9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y caiff canlyniadau’r holl dreialon clinigol eu cyhoeddi?OAQ(4)1420(FM)

 

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatgan dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu swyddi yng Nghymru yn ystod 2014?OAQ(4)1408(FM)

 

11. Julie James (Gorllewin Abertawe):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas eleni?OAQ(4)1412(FM)

 

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar ag Uganda? OAQ(4)1423(FM)

 

13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau nyrsio mewn ysbytai yng Nghymru? OAQ(4)1427(FM)

 

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1414(FM)

 

15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref yng Nghymru? OAQ(4)1417(FM)